DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025

DYDDIAD

16 Rhagfyr 2025

GAN

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

 

 

Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol bod caniatâd wedi'i roi i offeryn statudol Llywodraeth y DU (UKSI), o'r enw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025.

 

Diben y Rheoliadau hyn yw cychwyn adrannau 69 (yn llawn) a 71 o Ddeddf Caffael 2023, er mwyn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio â thaliadau a hysbysiadau perfformiad contract o dan Ddeddf Caffael 2023. Bydd y Rheoliadau hyn yn dod ag adran 69 i rym (mewn perthynas â chaffael a reoleiddir gan Weinidogion Cymru) o’r 1 Ebrill 2026, ac adran 71 o 1 Ionawr 2026.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod â darpariaethau Deddf Caffael 2023 i rym sy'n gymwys i gaffaeliadau a reoleiddir gan Weinidogion Cymru. Gan mai dim ond Gweinidog y Goron sydd â'r pŵer i gychwyn darpariaethau'r Ddeddf, mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 127(3). Felly, darparwyd caniatâd i alluogi'r darpariaethau cychwyn perthnasol i ddod i rym i Gymru.

 

Mae'r Rheoliadau ar gael yma: The Procurement Act 2023 (Commencement No. 4) Regulations 2025